Creu cynllun diogelwch teulu i amddiffyn plant
Os ydych chi am gadw'ch plentyn yn ddiogel rhag camdriniaeth rywiol, gall gwneud cynllun diogelwch teulu helpu.
Mae'n bwysig gwybod beth yw ystyr ffactor risg a sut y gallai ffactorau risg edrych. Ffactor risg yw rhywbeth sy'n rhoi rhywun mewn perygl o gam-drin plentyn yn rhywiol. Gallai fod yn rhywbeth fel bod yn agos at blentyn neu beidio â goruchwylio plentyn.
Mae yna hefyd bethau sy'n amddiffyn plant - ac mae'n bwysig meddwl am y pethau y gall teulu eu gwneud i gadw pawb yn fwy diogel.
Ymhlith yr enghreifftiau mae cyfathrebu da o fewn y teulu, perthnasoedd cefnogol a rheolau a ffiniau priodol. Dyma flociau adeiladu eich teulu ac maent yn sylfaen dda ar gyfer datblygu cynllun diogelwch teulu effeithiol. Gallwch lawrlwytho llyfryn i’ch helpu chi i greu cynllun diogelwch teulu sydd hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae'n bwysig cael cymorth os ydych chi'n amau bod rhywbeth o'i le, yn hytrach nag aros am dystiolaeth o niwed.
Cynllun diogelwch teulu
Yr anoddaf y gallwn ei gwneud hi i’r camdrinwyr ddod rhwng plant a'r rhai sy'n gofalu amdanynt, saffach fydd plant.
Dyna pam mae cynllun diogelwch teulu yn syniad da.
Y cam cyntaf i fynd i’r afael â’r distawrwydd a’r cyfrinachedd sy’n amgylchynu camdriniaeth yw datblygu perthynas agored ac ymddiriedus gyda’n plant, lle gellir siarad am bethau da a drwg. Mae hyn yn golygu gwrando'n ofalus ar eu hofnau a'u pryderon, a rhoi gwybod iddynt na ddylent boeni am ddweud unrhyw beth wrthym.
Mae hefyd yn bwysig siarad â nhw, mewn ffyrdd sy'n briodol i'w hoedran, am berthnasoedd a rhyw, a bod yn gyffyrddus yn defnyddio'r geiriau y gallai fod eu hangen arnyn nhw. Mae yna rai awgrymiadau ar y wefan hon, gan gynnwys yr adnoddau Pantosaurus gwych gan yr NSPCC, i'w defnyddio gan rieni â phlant iau.
Dysgwch nhw pryd mae'n iawn dweud na, er enghraifft pan nad ydyn nhw eisiau chwarae, neu gael eu goglais, neu eu cofleidio neu eu cusanu.
Helpwch nhw i ddeall beth yw ymddygiad derbyniol, ac y gallent bob amser ddweud wrthym os yw rhywun yn ymddwyn mewn ffordd sy'n eu poeni, hyd yn oed os nad oeddent yn gallu dweud “na” ar y pryd.
Sicrhewch fod gan bob aelod o'r teulu hawliau i breifatrwydd wrth wisgo, ymolchi, cysgu a gweithgareddau personol eraill. Dylid hyd yn oed gwrando ar blant ifanc a pharchu eu dewisiadau.
Darganfyddwch gymaint ag y gallwch am warchodwyr plant, a pheidiwch â gadael plant ag unrhyw un y mae gennych unrhyw amheuon yn eu cylch. Os yw plentyn yn anhapus ynglŷn â rhywun penodol yn gofalu amdano, siaradwch gyda’r plentyn ynglŷn â’r rhesymau dros hyn.
Mae'r rhain yn gamau ymarferol y gall rhieni a gofalwyr eu cymryd i helpu i amddiffyn eu plant.
Gall y rheolau ‘SMART’ fod yn fan cychwyn da ar gyfer sgyrsiau pwysig:
Mae S am ‘SECRETS’ (CYFRINACHAU)
Mae cyfrinachau’n gallu bod yn hwyl, ond os ydynt yn ein gwneud ni’n drist neu’n ddryslyd, mae’n syniad da sôn amdanynt wrth Mam neu Dad neu rywun arall rydych chi’n ymddiried ynddo.
Mae M am ‘MATES’ (FFRINDIAU)
Ewch â rhywun gyda chi pan rydych chi’n mynd i rywle ac arhoswch gyda’ch gilydd.
Mae A am ‘ALWAYS’ (BOB AMSER)
Cofiwch ddweud bob amser wrth eich rhieni, gofalwr neu rywun arall rydych chi’n ymddiried ynddo i ble rydych chi’n mynd, gyda phwy rydych chi a phryd fyddwch chi’n ôl.
Mae R am ‘RESPECT’ (PARCH)
Cofiwch barchu eich corff a chofio ei fod yn breifat. Does gan neb hawl i gyffwrdd eich rhannau preifat - y rhannau o dan wisg nofio.
Ac mae T am ‘TELL’ (DWEUD)
Cofiwch ddweud wrth eich rhieni, gofalwr neu rywun arall rydych chi’n gallu ymddiried ynddo os oes rhywun neu rywbeth yn gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu’n ofnus.
Dyma rai pethau y gallwch chi a'ch teulu eu gwneud i amddiffyn plant rhag camdriniaeth rywiol:
GWYBOD YR ARWYDDION
- Ffordd arall o ddweud "cyfle i atal" yw "arwydd rhybuddio" - cyfle i oedolion amddiffynnol gydnabod risg bosibl a gweithredu i ddiogelu plant.
- Darllenwch fwy am arwyddion rhybuddio
- Cofiwch yr hen ddywediad - mae atal yn well na gwella; mae'r atal mwyaf effeithiol yn digwydd cyn bod y plentyn yn gwella neu cyn i’r camdriniwr gael ei ddal
CYSYLLTIADAU AGORED O RAN CYFATHREBU
- Dechrau yn unig yw’r sgwrs ac nid digwyddiad unwaith, boed hynny yn siarad â phlentyn, person ifanc, neu oedolyn am ymddygiadau rhywiol neu eich pryderon eich hun
- Gadewch i bawb yn y teulu wybod ei bod hi'n iawn i ofyn cwestiynau. Mae'n bwysig i oedolion osod y naws i bawb trwy siarad am yr ystod o ymddygiadau rhywiol iach; beth yw ymddygiad rhywiol afiach a thrwy annog pawb i godi llais am gam-drin rhywiol
- Mae'r NSPCC wedi datblygu canllaw i rieni a gofalwyr ei ddefnyddio gyda phlant ifanc i'w helpu i'w cadw'n ddiogel. Mae'r Rheol Dillad isaf yn dysgu plant bod eu corff yn perthyn iddyn nhw; mae ganddyn nhw hawl i ddweud na, ac y dylen nhw ddweud wrth oedolyn os ydyn nhw wedi cynhyrfu neu'n poeni. Lawrlwythwch – y canllaw i oedolion. Lawrlwythwch - y canllaw i oedolion ei ddefnyddio gyda phlant
- Gall defnyddio llyfrau eich helpu i ddechrau'r sgyrsiau pwysig hyn gyda'ch plant. Fodd bynnag, cyn i chi eu darllen gyda'ch plentyn, darllenwch nhw eich hun yn gyntaf, fel y gallwch farnu a yw'r wybodaeth yn briodol i'ch plentyn ac i sicrhau eich bod chi'n gyfarwydd â'r stori. Yn olaf, edrychwch ar y straeon hyn fel man cychwyn i sgwrsio, trafod a dysgu ac addysgu parhaus. Dewch o hyd i’r rhestr yma
ADDYSGU BOB UN YN Y TEULU
- Deall datblygiad rhywiol iach mewn plant yn ogystal â'r ymddygiadau rhywiol a allai beri pryder i chi fel rhiant/gofalwr
- Dysgwch yr arwyddion rhybuddio mewn plentyn allai fod wedi cael ei anafu gan gamdriniaeth rywiol yn ogystal â'r arwyddion rhybuddio mewn oedolyn, person ifanc neu blentyn a allai fod yn cyffwrdd â phlentyn mewn ffordd rywiol. Efallai bod eich pryderon yn ymwneud ag ymddygiad nad ydynt yn cyffwrdd hefyd (e.e. dangos pornograffi i blentyn)
- Dysgu’r enwau cywir i blant ar gyfer rhannau'r corff a beth i'w wneud os bydd rhywun yn ceisio eu cyffwrdd mewn ffordd rywiol. Cofiwch adael i blant ifanc wybod nad oes gan unrhyw un yr hawl i gyffwrdd â'u rhannau preifat (oni bai am resymau meddygol) ac na ddylent gyffwrdd â rhannau preifat unrhyw un arall
GOSOD FFINIAU TEULU CLIR
-
Gosodwch ffiniau teulu clir i aelodau’r teulu ynghyd ag oedolion eraill sy'n treulio amser o gwmpas neu'n goruchwylio'r plant (ee, os nad yw plentyn eisiau cofleidio neu gusanu rhywun wrth ddweud helo neu hwyl fawr yna gall ef neu hi ysgwyd llaw )
-
Os nad yw plentyn yn gyffyrddus ag oedolyn penodol neu blentyn hŷn yna mae'n rhaid i chi neu ryw oedolyn arall roi gwybod i'r unigolyn hwnnw (e.e., dywedwch wrtho ef neu hi nad ydych chi am i'ch plentyn eistedd ar ei lin)
-
Wrth i blentyn aeddfedu, efallai y bydd angen i ffiniau o fewn y cartref newid hefyd (e.e., curo ar y drws cyn mynd i mewn i ystafell person ifanc)
CYNNWYS OEDOLION DIOGEL
- Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw un o’r teulu yn cael eu hynysu. Nodwch un neu fwy o bobl gefnogol ar gyfer pob aelod o'r teulu
- Mae ymchwil yn dangos mai un o'r ffactorau allweddol yng nghadernid plentyn (y gallu i wella ar ôl digwyddiadau llawn straen) yw bod ganddo ef/hi rywun i siarad ag ef ac ymddiried ynddo. Byddwch yn berson diogel, cyfrifol a chyson ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc
- Os yw rhywun yn "rhy dda i fod yn wir" yna gofynnwch fwy o gwestiynau - efallai na fydd y ffrind neu'r aelod hwn o'r teulu yn berson diogel i'ch plentyn. Yn anffodus, ni all ymddiriedaeth ddiamod amddiffyn plant rhag niwed
CYMERWCH RAGOFALON SYNHWYROL O RAN PWY SYDD GYDA MYNEDIAD I'CH PLANT
- Byddwch yn ymwybodol o bwy sy'n rhoi sylw i'ch plant a phwy yw eu ffrindiau
- Peidiwch ag anwybyddu unrhyw anesmwythyd rydych chi'n ei deimlo ynglŷn â phobl sy'n dangos diddordeb yn eich plentyn
- Sicrhewch wybodaeth am bolisi a gweithdrefnau diogelu unrhyw glybiau neu sefydliadau y gall eich plentyn ymuno â nhw. Gofynnwch am brawf bod oedolion sy'n gweithio yn wirfoddol gyda phlant wedi cael eu gwiriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd)
GWYBOD AM ADNODDAU LLEOL A SUT I GAEL MYNEDIAD ATYNT
- Rydym wedi rhestru amrywiaeth o adnoddau i gysylltu â nhw i gael cyngor, gwybodaeth a chymorth ar y dudalen dolenni defnyddiol
- Dysgu am yr asiantaethau sy’n eich ardal chi. Gwybod pwy i ffonio am cymorth a chyngor a sut i roi gwybod am bryderon os ydych chi'n cael gwybod bod plentyn wedi cael ei gam-drin yn rhywiol
CEISIO cymorth A CHYNGOR – NID YDYCH CHI AR BEN EICH HUN
- Os ydych chi'n poeni am ymddygiad rhywiol rhiant, cefnder, brawd neu chwaer, ffrind, neu gymydog, mae'n bwysig siarad â nhw. Os ydych chi'n poeni am eich meddyliau a'ch teimladau eich hun tuag at blant, mae cymorth ar gael
- Ffoniwch linell gymorth Stop It Now! ar 0808 1000 900 i ddysgu mwy am yr adnoddau sydd ar gael yn eich cymuned
- Sicrhewch fod pawb yn gwybod ei bod yn iawn siarad â chi am yr hyn a allai fod wedi digwydd eisoes - eich bod yn eu caru ac y byddwch yn eu helpu.
< Fiedo blaenorol Fideo nesaf >
EISIAU GWYBOD MWY?
Os ydych eisiau gwybod mwy sut i atal cam-drin plant yn rhywiol, gallwch wylio gweddill ein ffilmiau byr.
Os ydych chi'n poeni am sut mae oedolyn neu berson ifanc rydych chi'n ei adnabod yn ymddwyn o amgylch plant, gallwch gael cefnogaeth gyfrinachol drwylinell gymorth Stop It Now! 0808 1000 900.Os nad ydych yn barod i siarad â rhywun eto, gallwch ddefnyddio ein sgwrs fyw neu anfon neges ddiogel.
Warning signs in children and adults
It is very difficult to think that a child is being abused. If you are concerned about the way that a young person or adult is acting, read through our guide to understand how to respond.
Learn MoreWhat to do if your child gets into trouble online
Children are able to access more dangerous content than ever online. If your child gets into trouble online, it is imporant to know how to react and support them.
Learn MoreHarmful sexual behaviour among young people
It is vital that adults and carers understand what harmful sexual behaviour looks like in young people and how to respond if you are concerned about a child or young person's actions.
Learn MoreWhat to do if a child tells about abuse
Children frequently do not tell about abuse, but it they disclose this kind of information it is vital to respond sensitively and appropriately. Our guide aims to offer support to parents and carers to know how to act.
Learn More